OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 135 (Cy. 65)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(b) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,
(c) Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a
(d) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales arolygu o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny (rheoliadau 2, 3 a 4).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Mae rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau 2015 yn cyfeirio at swyddogaethau cofrestru awdurdodau lleol yn adrannau 20 a 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”). Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r cyfeiriad hwnnw er mwyn iddo gyfeirio at swyddogaethau cofrestru Gweinidogion Cymru yn adrannau 20 neu 22 o Fesur 2010.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oed yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 135 (Cy. 65)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016
Gwnaed 3 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Medi 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([1]) a pharagraffau 6B(1)(a) ac 13B(2) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000([2]), a chan adrannau 28(1), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005([3]), a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau
ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a
Hyfforddiant) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Medi
2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001([4]), yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
3. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”; a
(b) yn rheoliad 14, yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
4. Yn rheoliad 4 o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006([6]), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015
5. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2)(f), rhodder—
“(f) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 20 neu 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([8]), y person hwnnw a Gweinidogion Cymru”; a
(b) yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—
“(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2016
([1]) 1998 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
([2]) 2000 p. 21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
([3]) 2005 p. 18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
([4]) O.S. 2001/2501 (Cy. 204) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy. 80)), Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy. 243)), Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).
([5]) O.S. 2006/1714 (Cy. 176) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).
([6]) O.S. 2006/3103 (Cy. 286) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).